'Iaith Oleulawn'

Geirfa Dafydd ap Gwilym

Author(s) Dafydd Johnston

Language: Welsh

  • June 2020 · 320 pages ·216x138mm

  • · Paperback - 9781786835673
  • · eBook - pdf - 9781786835680
  • · eBook - epub - 9781786835697

About The Book

Dyma’r astudiaeth gyflawn gyntaf o eirfa Dafydd ap Gwilym. Dangosir ynddi sut y creodd Dafydd farddoniaeth gyfoethog ac amlweddog trwy gyfuno ieithwedd hen a newydd, llenyddol a llafar, brodorol ac estron. Trafodir y geiriau a gofnodwyd am y tro olaf yn ei waith, a’r nifer fawr a welir am y tro cyntaf, y benthyciadau o ieithoedd eraill, ei ddulliau o ffurfio geiriau cyfansawdd, a geirfa arbenigol amryw feysydd fel crefydd, y gyfraith, masnach a’r meddwl dynol. Roedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyfnod o newid mawr yn yr iaith Gymraeg yn sgil datblygiadau cymdeithasol a dylanwadau gan ieithoedd eraill, a manteisiodd Dafydd ar yr ansefydlogrwydd i greu amwysedd cyfrwys. Trwy sylwi’n fanwl ar y defnydd o eiriau gan Ddafydd a’i gyfoeswyr, datgelir haenau newydd o ystyr sy’n cyfoethogi ein dealltwriaeth o waith un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg.

Endorsements

'Dyma un o’r gweithiau mwyaf gwreiddiol a difyr am lên Gymraeg yr Oesoedd Canol a gafwyd ers tro byd. Mae’n adeiladu ar y cynnydd aruthrol a gafwyd mewn ysgolheictod testunol trylwyr dros y 40 mlynedd diwethaf... Ond nid pennod yn hanes yr iaith yw’r llyfr o bell ffordd: mae yma ddadansoddi llenyddol athrylithgar drwyddo draw, yn enwedig wrth edrych ar amwysedd a choegni, dosbarth a hil, a’r synhwyrau. Bydd croeso arbennig i’r trafod manwl ar destunau gosod fel ‘Trafferth mewn Tafarn’ a ‘Mis Mai a Mis Tachwedd’. O’m rhan innau, fe gefais oleuni newydd, annisgwyl weithiau, ar fawredd y bardd, a rhaid cyfaddef bod cael Cerddi Dafydd ap Gwilym (2010) wrth law yn hwyluso ac yn cyfoethogi’r darllen. Dyma gyfrol nodedig a fydd o ddiddordeb a budd i’r bardd, i’r ieithgi, i’r hanesydd, ac i bawb sy’n caru llenyddiaeth' - Marged Haycock, Cylchgrawn Barn, Medi 2020

'Pleser go anghyffredin yw croesawu llyfr ysgolheigaidd newydd sy’n ymdrin â llenyddiaeth yr Oesoedd Canol ac a ysgrifennwyd yn Gymraeg, yn enwedig pan yw mor ddiddorol, mor ddadlennol ac mor loyw ei fynegiant â’r llyfr hwn. Y mae Iaith Oleulawn yn amlwg yn ffrwyth cyfnod hir o ymdrwytho ym marddoniaeth Dafydd ap Gwilym ac mae’r awdur yn tynnu ar wybodaeth ddofn o’i gerddi… Dyma lyfr y gwn y byddaf yn troi ato yn fynych yn y dyfodol ac a ddaw yn fath o gyfeirlyfr ar ystyron a chynodiadau geiriau unigol a hefyd yn batrwm ar gyfer dadansoddi ieithwedd cerddi unigol. Llongyfarchiadau i Dafydd Johnston am un o’r cyfraniadau mwyaf gwreiddiol erioed i astudio llenyddiaeth Cymraeg Canol.'

- Barry J. Lewis, Dwned 26 (2020)

Contents

Diolchiadau
Rhagymadrodd
Pennod 1Y Bardd a’i Gefndir
Pennod 2Crefft Cerdd Dafod
Pennod 3Geirfa Hynafol
Pennod 4Geirfa Newydd
Pennod 5Geiriau Benthyg
Pennod 6Ffurfiant Geiriau
Pennod 7Geiriau Cyfansawdd
Pennod 8Meysydd
Pennod 9Y Synhwyrau a’r Meddwl
Pennod 10Amwysedd
Pennod 11Casgliadau
Llyfryddiaeth
Byrfoddau
Mynegai

About the Author(s)

Author(s): Dafydd Johnston

Yr Athro Dafydd Johnston yw Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Read more