Llwybrau Cenhedloedd
Cyd-destunoli'r Genhadaeth Gymreig i'r Tsalagi
Language: Welsh
Series: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
- April 2012 · 247pages · 216x138mm
- ·Paperback - 9780708324714
- · eBook - pdf - 9780708324721
About The Book
A ground-breaking volume which examins material in three languages – Welsh, English and Cherokee (Dsalagi) – while discussing different aspects of the missionary work of two Welsh Baptists who lived and worked amongst the native American tribe.
Endorsements
"A wladychwyd y Cymry? Ynteu ai gwladychwyr oeddent? Ceir golwg newydd ar y pwnc llosg hwn yn y gyfrol arloesol a dadlennol hon, sy'n trafod rhan gymhleth a diddorol y Cymry (yn bennaf ym mherson Evan Jones) yn ffawd drist cenedl frodorol y Cherokee yn y Taleithiau. Dyma lyfr cyfoethog, cynnil a chytbwys sy'n ennyn parch o'r newydd at oreuon y genedl Anghydffufriol ac yn cyfannu'r darlun a gychwynwyd yn y clasur Wales in Kasia." Athro M. Wynn Thomas, Yr Adran Saesneg, Prifysgol Abertawe "Wrth adrodd hanes hynod ddadlennol y cenhadon Evan Jones a Thomas Roberts ymhlith cenedl y Tsalagi (Cherokee), mae Jerry Hunter yn archwilio grymoedd diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol yr 1820au a'r 1830au yn America. Mae'n cyflwyno rhai o syniadau canolog Astudiaethau Cenhedloedd Brodorol America i gynulleidfa Gymraeg, tra hefyd yn ein gorfodi i ail ystyried rhai o bynciau canolog astudiaethau Cymreig heddiw: cenedlaetholdeb a chrefydd; iaith a diwylliant; cymhathiad diwylliannol a'r frwydr i gynnal traddodiadau neilltuol. Heb os, mae 'Llwybrau Cenhedloedd' yn gampwaith o astudiaeth gymharol." Dr. Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe
Contents
Gair Ynghylch Gair Diolchiadau Prolog: 1838 RHAN I: Y GENHADAETH GYMREIG I’R TSALAGI 1. Dinadawosgi Cymreig: Cenhadaeth Thomas Roberts ac Evan Jones, 1821 – 5 2. Ayvwi, Llythrennedd a’r Yonega Cymreig: Cenhadaeth Evan Jones, 1825 – 39 RHAN II: GWASG GYMRAEG AMERICA A BRODORION Y CYFANDIR, 1838 – 42 3. O Gigyddion Fflorida i Ymerodraeth y Gorllewin Pell: Y Cyfaill o’r Hen Wlad a Brodorion America, 1838 – 42 4. Yr Indiaid Cymreig: Y Cyfaill o’r Hen Wlad a Llen y Madogwys 5. ‘Gwnaeth y wlad gam mawr a’r Indiaid ac nid yw’r eglwys yn glir yn y peth hyn’: Y Cenhadwr Americanaidd, Y Beread a’r Brodorion, 1840 – 2 RHAN III: DAU GYLCHGRAWN, DWY IAITH, UN GREFYDD 6. Tsalagi Atsinvsidv: Cenhadwr Llenyddol Evan Jones 7. Cymhlethdodau Huodledd: Y Seren Orllewinol, Brodorion America a Chenhadaeth Evan Jones