Sylfeini Cyfieithu Testun

Cyflwyniad i Gyfieithu Proffesiynol

Author(s) Ben Screen

Language: Welsh

  • November 2021 · 304 pages ·244x172mm

  • · Paperback - 9781786838155
  • · eBook - pdf - 9781786838162
  • · eBook - epub - 9781786838179

About The Book

Mae’r gyfrol hon yn tywys cyfieithwyr newydd a’r rhai sydd â’u bryd ar weithio yn y maes trwy brif egwyddorion llunio cyfieithiad da. Mae’n trafod gwaith cyfieithwyr o safbwynt diogelu lle’r iaith yn y gymdeithas, yn egluro beth sydd ei angen ar ddarpar gyfieithwyr o ran sgiliau a gwybodaeth, ac yn dangos y gwych a’r gwachul er mwyn cynorthwyo cyfieithwyr i lunio gwaith da heb y llediaith a’r cyfieithu lletchwith. Mae’n taflu goleuni ar yr amryfal dechnegau y mae cyfieithwyr cymwys yn eu defnyddio, o’r broses ddarllen hyd at y broses adolygu, ac mae’n gwneud hynny trwy enghreifftiau o gyfieithiadau go iawn a gyhoeddwyd. Mae’n trafod cyfieithu peirianyddol, dyfodol y proffesiwn a sut i wneud y defnydd gorau o’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae ymchwil academaidd hefyd yn elfen gref o’r gwaith, ac mae’r cyngor a’r canllawiau yn seiliedig ar yr ysgolheictod trylwyraf ynghyd â phrofiad yr awdur o’r byd cyfieithu proffesiynol.

Endorsements

‘Hyd heddiw mae hyfforddiant i gyfieithwyr yng Nghymru wedi dibynnu i raddau helaeth ar reddf a synnwyr y fawd. Bydd y gyfrol gynhwysfawr hon – sy’n cynnig, am y tro cyntaf, hyfforddiant manwl ar bob agwedd ar waith y cyfieithydd a hwnnw’n seiliedig ar fframwaith theoretig cadarn – yn gweddnewid y sefyllfa. Bydd yn adnodd amhrisiadwy i gyfieithwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd.’
Dr Sylvia Prys Jones, cyn bennaeth Uned Gyfieithu Prifysgol Bangor

‘Mae’r gyfrol hon yn gyfraniad pwysig a gwerthfawr i’r proffesiwn cyfieithu yng Nghymru. Wrth drafod y maes yn feirniadol am y tro cyntaf, mae’n torri tir newydd. Bydd iddi apêl eang ymysg cyfieithwyr, a bydd o ddiddordeb i gyfieithwr beth bynnag fo’u profiad.’
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

‘Dyma’r gyfrol gynhwysfawr gyntaf ar egwyddorion cyfieithu testun rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd yn werslyfr anhepgor i fyfyrwyr cyfieithu ac yn gloddfa gyfoethog i gyfieithwyr sydd am ddatblygu’n broffesiynol. Mae digon ynddi hefyd i unrhyw un sy’n mwynhau cnoi cil ar iaith, polisi a thechnoleg yn ein Cymru ddwyieithog, ddifyr.’
Yr Athro Delyth Prys, Prifysgol Bangor

‘Dyma arweiniad ardderchog a chynhwysfawr i egwyddorion cyffredinol cyfieithu o safbwynt theoretig ac ymarferol. Y nod yw gwella safon cyfieithu Cymraeg, ac mae'n llenwi bwlch amlwg yn y ddarpariaeth yn y maes.’
Dr Simon Brooks, Prifysgol Abertawe

‘Dyma driniaeth academaidd gyflawn, arloesol o ddisgyblaeth Astudiaethau Cyfieithu yn y Gymraeg. Mae’n gyfrol anhepgor a fydd yn diwallu anghenion nifer o gynulleidfaoedd gwahanol – o gyfieithwyr newydd a rhai mwy profiadol i fyfyrwyr ar fodiwlau cyfieithu yn y brifysgol. Dylai fod yn ddarllen hanfodol ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried hyfforddi ar gyfer gyrfa fel cyfieithydd testun.’
Dr Steve Morris, Prifysgol Abertawe

‘Dyma gyfrol hanfodol bwysig i unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r byd cyfieithu: yn ymarferwyr yn y maes, yn addysgwyr neu’n fyfyrwyr ar gyrsiau iaith. Yn wir, mae’n gyfrol bwysig i unrhyw un sydd am weld y Gymraeg yn ffynnu. Wedi’r cyfan, mae cyfieithu’n weithgaredd cwbl angenrheidiol mewn cenedl ddwyieithog sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo a gwarchod y Gymraeg. Mae’n sector sylweddol a’r galw am wasanaeth cyfieithwyr ar gynnydd, eto i’r sawl sydd am fentro i’r maes prin yw’r deunydd sy’n egluro hanfodion cyfieithu proffesiynol yn y Gymraeg. Dyma gyfrol i unioni’r cam hwnnw ac un sy’n cydnabod ac yn dathlu crefft y cyfieithydd. Dengys yr awdur nad unigolion yn dibynnu ar reddf neu’r glust yw cyfieithwyr. Yn hytrach, dyma weithlu arbenigol sy’n sicrhau cydraddoldeb i siaradwyr Cymraeg drwy eu galluogi i ddefnyddio’r iaith o’u dewis. Mae hon yn gyfrol uchelgeisiol gan awdur a’i fryd ar godi safonau a sicrhau ansawdd o fewn y gweithlu hwnnw. Cyflwyna’r wybodaeth a’r technegau y mae disgwyl i gyfieithwyr eu meithrin gan gyflwyno theorïau a chysyniadau ieithyddol yn fanwl. Ond gwneir hynny bob amser mewn dull eglur a pherthnasol, gan ffurfio’r penodau’n unedau dysgu hwylus a fydd o ddefnydd mawr i unigolion wrth astudio ar eu pennau eu hunain ac i addysgwyr ar gyrsiau academaidd a galwedigaethol.’
Dr Siwan Rosser, Prifysgol Caerdydd

Contents

Cydnabyddiaethau
Ffigurau a Thablau
Rhagair
Cyflwyniad
I bwy mae’r llyfr hwn?
Yr hyn na fydd yn cael ei drafod
Diffiniadau
Sut mae defnyddio’r gyfrol hon
Gair am ieithwedd y gyfrol
Pennod 1: Cyfieithu yn y Gymru Gyfoes
Pennod 2: Pwy yw’r Cyfieithydd a Beth Mae’n ei Wneud?
Pennod 3: Theori: Sylfeini Ymarfer Gwybodus
Pennod 4: Darllen Er Mwyn Cyfieithu81
Pennod 5: Strategaethau wrth Lunio Cyfieithiadau
Pennod 6: Sgiliau Testunol, Adolygu Gwaith ac Ansawdd Testunau
Pennod 7: Technoleg Cyfieithu a Chyfieithu Proffesiynol
Pennod 8: Clymu’r edafedd ynghyd: Cyfieithu Da, Cyfieithu Sâl
Gair i gloi
Darllen pellach
Llyfryddiaeth
Mynegai

About the Author(s)