Trawsffurfio’r Seintiau

Llawysgrif Yale o Fucheddau’r Saint

Author(s) David Callander

Language: Welsh

  • May 2024 · 312 pages ·216x138mm

  • · Paperback - 9781837721207
  • · eBook - pdf - 9781837721214
  • · eBook - epub - 9781837721221

About The Book

Yn anaml iawn y daw ffynonellau newydd ar gyfer y Gymru ganoloesol gynnar i’r amlwg. Ond dyma a geir yn llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb229 – llawysgrif modern cynnar sy’n drysorfa o destunau hagiograffaidd. Ei thrysor mwyaf yw ei fersiwn unigryw o Fuchedd Cybi, a all gynnwys elfennau mor gynnar â’r ddegfed neu’r unfed ganrif ar ddeg, gan gyflwyno tystiolaeth gwbl newydd am Gybi a’i gwlt canoloesol. Nid am ei chopi o Fuchedd Cybi yn unig y mae’r gyfrol hon yn arwyddocaol. Fe ddengys yn ogystal sut yr aethpwyd ati i addasu gweithiau megis Buchedd Beuno a Buchedd Collen yn yr Oesoedd Canol diweddar a’r cyfnod modern cynnar; tystia i weithgarwch rhwydweithiau Catholig ac unigolion megis Edward Morgan o Lys Bedydd, offeiriad Catholig a greodd y cyfieithiad unigryw o Fuchedd Gwenfrewy yn y llawysgrif hon, ac a ddienyddiwyd maes o law. Diogelwyd y testunau hyn oll gan ysgrifydd amryddawn y llyfr, Robert Davies o Wysanau, Sir y Fflint, a chawn gyflwyniad i’w fywyd, ei weithgarwch a’i ddiddordebau eang.

Contents

Byrfoddau
Rhagair
1 Llawysgrif Gatholig a’i Hysgrifydd
2 Buchedd yr Esgob Cybi
3 Trawsffurfio Hagiograffeg Gymraeg: Buchedd Beuno a Buchedd Collen
4 Cynnyrch Merthyr Catholig: Cyfieithiad Edward Morgan o’r Vita Wenefredae
5 Ar y Diwedd
Llyfryddiaeth
Mynegai

About the Author(s)

Author(s): David Callander

David Callander is a Junior Research Fellow at St Catharine’s College, Cambridge.

Read more

-
+

SPRING SALE

Enjoy 70% off over 300 titles!