Y Dychymyg Ôl-Fodern

Agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan

Author(s) Rhiannon Marks

Language: Welsh

  • August 2020 · 208 pages ·216x138mm

  • · Paperback - 9781786835901
  • · eBook - pdf - 9781786835918
  • · eBook - epub - 9781786835925

About The Book

Cyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy’n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955–). Hon yw’r astudiaeth estynedig gyntaf o’i waith, a rhoddir sylw penodol i’r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 – cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i’r afael â phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ôl-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i’r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ôl-fodernaidd Gymraeg a’i harwyddocâd i’n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg â beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio’r ffin dybiedig rhwng ‘ffaith’ a ‘ffuglen’. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw â thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur.

Endorsements

‘O’r diwedd, dyma astudiaeth gynhwysfawr o gyfraniad enfawr Mihangel Morgan i ffuglen fer yn y Gymraeg, un sy’n gosod ei waith
mewn cyd-destunau Ewropeaidd cyfoes. Mae cyfrol Rhiannon Marks nid yn unig yn ymdriniaeth ddadlennol â gwaith yr awdur, ond hefyd yn ymateb creadigol cyfaddas iddo – yn ddychmygus, deallus ac yn cynnig difyrrwch di-ben-draw i’r darllenydd. Ardderchog!’
-Yr Athro Angharad Price, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor

‘Dyma ddarn o feirniadaeth greadigol yng ngwir ystyr y gair, cyfrol nad oes dim sy’n gonfensiynol na’n rhagweladwy amdani. Wedi ei hysbrydoli gan ryddiaith storïol Mihangel Morgan, mae’n ymateb i’r her a osodir ganddi gyda chyfuniad amheuthun o ddychymyg a deall, ffresni a gwreiddioldeb.’
-Yr Athro Gerwyn Wiliams, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor

Ac am y tro cyntaf bellach mae gennym astudiaeth academaidd sylweddol o waith creadigol y digymar Mihangel Morgan... Eir i’r afael yma â phynciau pwysig megis ffurf y stori fer yn fwy cyffredinol, realaeth, moderniaeth ac ôl-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i’r astudiaeth, cynigir golwg ehangach inni ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ôl-fodernaidd Gymraeg a’i harwyddocâd i’n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg â beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio’r ffin dybiedig rhwng ‘ffaith’ a ‘ffuglen’… Mae Rhiannon Marks yn amlwg yn ffan mawr o waith Mihangel Morgan ac wedi astudio ei gyhoeddiadau yn eithriadol o fanwl. A rhaid parchu ei gwybodaeth drwyadl o lenyddiaeth Gymraeg yn gyffredinol, maes y mae wedi ei feistroli i'r ymylon.
– Dr J. Graham Jones, Y Cymro

Contents

Diolchiadau
Rhagair
Rhagymadrodd
1.Dechrau’r Tymor ym Mhrifysgol Caerefydd
2.O’r Merddwr Dychrynus
3.Ar drywydd Hen Lwybr a Storїau Eraill
4.Cynnal Gweithdy: Saith Pechod Marwol
5.Gwthio Ffiniau yn Te Gyda’r Frenhines
6.Pwyllgora a Chystadlu
7.Jean Baudrillard a’r cyflwr ‘hyperreal’
8.Trafod Theori Cadi
9.Agweddau ar Tair Ochr y Geiniog
10.Storïau Ffeithiol
11.Dadadeiladu ‘Recsarseis Bŵc’ yn Cathod a Chŵn
12.Adnabod Awdur?
13.Ymweld ac ailymweld yn Kate Roberts a’r Ystlum a Dirgelion Eraill
14.Crefft y Stori Fer Heddiw
15.Di-ffinio 60
16.Hel Syniadau
Llyfryddiaeth Ddethol

About the Author(s)

Author(s): Rhiannon Marks

Daw Rhiannon Marks yn wreiddiol o Gil-y-Cwm, Sir Gâr, ac fe’I haddysgwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Iesu, Rhydychen. Mae’n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn arbenigo mewn llenyddiaeth gyfoes a theori lenyddol. Enillodd ei chyfrol academaidd gyntaf, ‘Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr’: Golwg ar Waith Menna Elfyn, Wobr Goffa Syr Ellis Griffith yn 2015.

Read more

-
+

SPRING SALE

Enjoy 70% off over 300 titles!