Y Gelfyddyd Gymodlawn

T. Gwynn Jones a Cherddoriaeth

Author(s) Elen Ifan

Language: Welsh

Series: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig

  • February 2026 · 280 pages ·216x138mm

  • · Paperback - 9781837723324
  • · eBook - pdf - 9781837723331
  • · eBook - epub - 9781837723348

Mae’r gyfrol hon yn mynd i’r afael â gwaith T. Gwynn Jones (1871–1949), un o brif feirdd Cymraeg yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio’n benodol ar berthynas ei waith â cherddoriaeth. Roedd T. Gwynn Jones yn fardd dylanwadol a thoreithiog, a derbyniodd gryn sylw beirniadol a bywgraffyddol – ond dyma’r drafodaeth gyntaf ar ei waith mewn cyd-destun cerddorol. Fel yr astudiaeth gyntaf o’i math ym maes llenyddiaeth Gymraeg, mae’r llyfr yn gyflwyniad cyffrous i astudiaethau cerddo-lenyddol. Mae’n craffu ar ddylanwad cerddoriaeth ar waith T. Gwynn Jones: cefndir cerddorol rhai o gerddi Caniadau; y rhai cannoedd o gyfieithiadau o eiriau caneuon; ymwneud y bardd â cherddoriaeth draddodiadol; a’r cydweithio helaeth fu rhyngddo a W. S. Gwynn Williams, sylfaenydd Cwmni Cyhoeddi Gwynn. Mae’r gyfrol yn ymdrin â thestunau cyfarwydd ac anghyfarwydd, ac yn cynnig gwedd gwbl newydd ar waith bardd cyfarwydd. 

Cydnabyddiaethau
‘Peroriaeth rhamant’: T. Gwynn Jones a cherddoriaeth
Y ‘mawrion’ a’u miwsig: Caniadau a cherddoriaeth
‘Simply specimens’: cyfieithiadau T. Gwynn Jones o eiriau caneuon 1922–38
‘We should do as much as we can together’: T. Gwynn Jones a W. S. Gwynn Williams
‘A tremendous contribution’: cyfieithiadau T. Gwynn Jones ar gyfer Cwmni Cyhoeddi Gwynn 1937–45
‘Mapio’r Cyfandir Gwynn’
Llyfryddiaeth
Atodiad: Rhestr o Eiriau Caneuon gan T. Gwynn Jones

Author(s): Elen Ifan

Mae Elen Ifan yn Ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Astudiodd ei PhD ar T. Gwynn Jones a cherddoriaeth yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

Read more

-
+

IMC Leeds Virtual Stand