Y Gyfraith yn ein Llên

Author(s) R. Gwynedd Parry

Language: Welsh

  • June 2019 · 304 pages ·216x138mm

  • · Paperback - 9781786834270
  • · eBook - pdf - 9781786834287
  • · eBook - epub - 9781786834294

About The Book

Astudiaeth banoramig a thematig a geir yma sy’n bwrw golwg ar y traddodiad llenyddol Cymraeg yn ei ymwneud â’r gyfraith. Cyflwynir y traddodiad barddol a llenyddol o ddelweddu’r gyfraith, o Daliesin Ben Beirdd hyd at ein dyddiau ni. Gyda hynny, amlygir y traddodiad llenyddol a’i gynnyrch fel ffynonellau sydd yn dyfnhau ein dealltwriaeth o’r gyfraith a’i dylanwad mewn cymdeithas – a chymdeithas yng Nghymru yn benodol. Gan fabwysiadu strwythur cronolegol yn bennaf, rhoddir dadansoddiad o’r ymateb llenyddol i gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru mewn cyfnodau penodol yn ei hanes. Prif ddiddordeb y gyfrol yw’r cyfeiriadau cyfreithiol mewn cynnyrch llenyddol o fewn cyd-destun astudiaeth hanesyddol a chyfreithiol, a’r nod yw gwerthfawrogi llenyddiaeth fel cyfrwng i fynegi syniadau neu i ymateb i ffenomenau cyfreithiol. Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o’r maes ymddangos, ac y mae’n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal â gwneud cyfraniad pwysig i hanesyddiaeth lenyddol.

Endorsements

‘Cyfrol ddiddorol a dysgedig, sy’n dangos pwysigrwydd dealltwriaeth o’r gyfraith wrth ddarllen elfennau o’n llenyddiaeth fel cenedl – ac hefyd bwysigrwydd gwybodaeth o’n llenyddiaeth, yn enwedig ein barddoniaeth, er mwyn cyrraedd gwir ddealltwriaeth o’n cyfraith yn ei chyd-destun cymdeithasol. Mae’r gwaith yn llunio ac yn creu maes ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd ar Gymru a’r Gymraeg.’
-Yr Athro Thomas Glyn Watkin CF

‘Mae’r gyfrol gyfoethog hon yn astudiaeth drylwyr a hynod ddiddorol o’r berthynas gymhleth ac amlochrog rhwng y byd llenyddol a byd y gyfraith, rhwng beirdd a barnwyr, rhwng awduron ac ynadon. Yn ogystal â bod yn arolwg llenyddol, mae’r llyfr hefyd yn gofnod hanesyddol a chymdeithasol gwerthfawr. Gan gofio fod gan y Cymry eu cyfreithiau eu hunain unwaith, cyn gorfod derbyn deddfau’r gorchfygwr estron, mae brwydr cenedl i gadw’i hunaniaeth yn rhedeg fel gwe drwy’r gwaith. Ac ar ben popeth, mae’n llyfr darllenadwy iawn.’
-Yr Athro Alan Llwyd

'Mae testun y gyfrol hon yn hollol arloesol ac yn creu maes ymchwil hollol newydd a chyffrous a fydd yn bendant yn ysgogi gwaith ymchwil pellach mewn nifer o gyfeiriadau. Mae'r awdur dysgedig yn honni wrthym ar ddechrau'r daith mai 'pererinion ar siwrnai ddiddiwedd tuag at berffeithrwydd anghyraeddadwy yw ysgolheigion ac ymarferwyr y gyfraith fel ei gilydd'. Thema'r gyfrol gyfoethog hon yw'r ffordd y bu'r gyfraith yn annog ac yn ysbrydoli ein beirdd a'n llenorion drwy'r canrifoedd o'r oesoedd canol cynnar hyd at y dwthwn hwn. Un o'r prif themâu y trafodir mor drylwyr yma yw swyddogaeth y gyfraith o fewn ein hunaniaeth genedlaethol drwy gydol nifer fawr o gyfnodau hanesyddol, a threfnir y deunydd mewn dull cronolegol o glawr i glawr, gan gychwyn gydag Oes ein Tywysogion brodorol hyd at gyfnod yr ugeinfed ganrif. Ac mae'r astudiaeth ar ei hyd yn amlwg yn seiliedig ar ffrwyth ymchwil manwl a gofalus odiaeth fel yr adlewyrchir yn y llyfryddiaeth lawn a ddarperir ar ein cyfer o fewn y gyfrol (gweler tt. 283-302).'
- Dr J. Graham Jones, Y Cymro

'Mae hon yn gyfrol arloesol, yn gyntaf peth, am ei bod wedi ei llunio gan arbenigwr yn y gyfraith... Pennaf hynodrwydd yr astudiaeth yw'r cynfas panoramig sy'n amlygu yn gampus pa mor ddadlennol yw'r deunydd crai a pha mor ddihysbydd yw'r posibiliadau wrth ddynesu ato o gyfeiriad disgyblaeth arall. Cynigir sylwadau craff a manwl ar gerddi dethol o wahanol gyfnodau ac mae'r drafodaeth ar gywydd marwnad Dafydd ab Edmwnd i'r telynor Siôn Eos, a grogwyd wedi iddo ladd dyn arall yn ddamweiniol, yn enghraifft wiw o'r goleuni newydd a chyffrous y gellir ei gynnig o ddadansoddi darn o lenyddiaeth o berspectif cyfreithiol.'
– Adolygiad A. Cynfael Lake yn rhifyn Chwefror 2020 Barn

'Ni fynnaf orffen hyn o adolygiad heb ddatgan fy rhyfeddod at adnabyddiaeth dda'r awdur o hanes ein llên ar ei hyd. Dyma gyfreithiwr o academydd sydd hefyd yn hanesydd llên.'
-Derec Llwyd Morgan, O’r Pedwar Gwynt Gwanwyn 2020

Contents

Bywgraffiad
Rhagair
Byrfoddau
‘Nes na’r hanesydd . . .’: Adnabod y Genre
‘Cymhenraith gyfraith’: Cyfraith a Phencerdd yn Oes y Tywysogion
‘Sesar dadlau a sesiwn’: Beirdd yr Uchelwyr a’r Gyfraith
‘Yn gyfrwys yn y gyfraith’: y Llysoedd yn Llên y Dyneiddwyr
‘Rhostiwch y cyfreithwyr’: Gweledigaethau o’r Farn
‘Rhag gwŷr y gyfraith gas’: y Gyfraith mewn Baled ac Anterliwt
‘Hen gyfraith bengam’: y Gyfraith yng Ngweithiau’r Radicaliaid
‘Aur ben cyfreithwyr y byd’: Rhwng Radicaliaeth a Chenedlaetholdeb
‘Yn erbyn arglwydd, gwlad a deddf’: Llên, Cyfraith a Phrotest
Crynhoi
Llyfryddiaeth
Mynegai

About the Author(s)

Author(s): R. Gwynedd Parry

Mae R. Gwynedd Parry yn ysgolhaig ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn fargyfreithiwr. Yn 2010, cafodd ei ethol yn Gymrawd i’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018.

Read more

-
+

SPRING SALE

Enjoy 70% off over 300 titles!