Y Gymraeg a Gweithle’r Gymru Gyfoes

Editor(s) Rhiannon Heledd Williams,Rhianedd Jewell

Language: Welsh

  • July 2022 · 260 pages ·216x138mm

  • · Paperback - 9781786838803
  • · eBook - pdf - 9781786838810
  • · eBook - epub - 9781786838827

About The Book

Mae’r byd gwaith yng Nghymru a’r Gymraeg fel disgyblaeth yn esblygu yn sgil y galw cynyddol am weithwyr proffesiynol â sgiliau dwyieithog. Mae’r gyfrol ryngddisgyblaethol hon yn cyfuno lleisiau o’r byd academaidd a’r byd proffesiynol er mwyn archwilio i arwyddocâd a rôl y Gymraeg mewn gweithleoedd yn y Gymru gyfoes, ymateb y sectorau addysg a recriwtio i anghenion gweithwyr a sefydliadau, a rôl gwneuthurwyr polisi yn natblygiad yr iaith mewn cyd-destun proffesiynol. Sut mae gwella sgiliau dwyieithog gweithwyr? Er gwaethaf ewyllys da nifer o sefydliadau, a yw sgiliau Cymraeg eu gweithwyr yn cael eu cymhwyso? Beth yw buddiannau'r Gymraeg i weithleoedd, a beth yw’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth weithredu a chynnig eu gwasanaethau’n ddwyieithog? Beth yw rôl y Llywodraeth a'r Comisiynydd Iaith yn y fath ddatblygiadau? Wrth ystyried a thrafod y cwestiynau hyn, gofynnir sut y mae polisïau, cyfreithiau a safonau iaith yn effeithio ar y gweithle cyfoes yng Nghymru?

Endorsements

‘Dyma gyfrol sy’n cynnwys trafodaethau amserol iawn mewn maes y bu rhai yn ei fraenaru ers blynyddoedd. Gwelir erbyn heddiw bwysigrwydd ei gyfraniad at feithrin to newydd o raddedigion, er mwyn diwallu’r angen am weithwyr cyflogedig a all ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn pob math o swyddi proffesiynol, mewn sefydliadau a chyrff cyhoeddus a busnesau preifat fel ei gilydd.’
Dr Bleddyn Owen Huws, Prifysgol Aberystwyth

Contents

Cynnwys
Diolchiadau
Rhestr o’r Ffigyrau
Cyflwyniad: Y Gymraeg a’r Gweithle Cyfoes
Rhianedd Jewell a Rhiannon Heledd Williams
Y Galw a’r Gwendidau
Sefydlu cwmni recriwtio dwyieithog
Alun Gruffudd
Gwasanaethau Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Eleri Hughes-Jones
Pa mor effeithiol yw'r drefn yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Ifor Gruffydd
Cyfieithu Cyfiawn? Cyfieithu ar y pryd yn llysoedd Cymru
Rhianedd Jewell, Catrin Fflûr Huws a Hanna Binks
Y Datrysiadau a’r Cynlluniau
Meithrin Iaith: Y Gymraeg yn y Blynyddoedd Cynnar
Gwenllian Lansdown Davies ac Angharad Morgan
Cymraeg Gwaith
Helen Prosser
Y Mentrau Iaith a Chymraeg yn y Gweithle
Iwan Hywel
Mwy na hyfforddiant: cyfieithu a chyfrifoldeb
Mandi Morse
Y Polisïau a’r Safonau
Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru:
effaith safonau’r Gymraeg
Aled Roberts
Gweithredu Safonau’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth: y dyddiau cynnar
Mari Elin Jones
Cynnig dros Ysgwydd? Y Gymraeg, y Prifysgolion a’r Gweithle Dwyieithog
R. Gwynedd Parry
Y Sŵn yn y Senedd: profiad a phryder Aelodau o’r Senedd am wneud cyfraniadau
trwy’r iaith Gymraeg
Delyth Jewell
Llyfryddiaeth
Y Cyfranwyr

About the Editor(s)

Author(s): Rhiannon Heledd Williams

Mae Rhiannon Heledd Williams yn Arbenigwr Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin. Hi yw awdur y gyfrol Cyfaill Pwy o’r Hen Wlad? a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2017.

Read more