Yr Anymwybod Cymreig

Freud, Dirfodaeth a’r Seice Cenedlaethol

Author(s) Llion Wigley

Language: Welsh

Series: Safbwyntiau

  • June 2019 · 160 pages ·216x138mm

  • · Paperback - 9781786834454
  • · eBook - pdf - 9781786834461
  • · eBook - epub - 9781786834478

About The Book

Mae’r gyfrol hon yn rhoi cipolwg ar gyfoeth hanes syniadau yng Nghymru dros hanner canrif cynhyrfus rhwng diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a marwolaeth yr athronydd disglair J. R. Jones ym 1970. Bu Jones yn rhan ganolog o’r ymgais a wnaed yn y cyfnod i gyflwyno syniadau newydd, heriol a chwyldroadol o feysydd fel seicdreiddiad a dirfodaeth i’r diwylliant Cymraeg. Adeiladodd meddylwyr ac ysgolheigion tebyg iddo ddarlun o’r anymwybod Cymreig mewn gwaith sydd o gymorth parhaol i ddeall ein profiadau hanesyddol a gwleidyddol fel cenedl. Trwy ddadansoddi sut yr ymatebodd awduron Cymraeg i syniadau Freud, Jung, Sartre, de Beauvoir ac eraill, lleolir hanes deallusol y Gymru Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol eang. Ceisir ymhellach ddangos perthnasedd a phwysigrwydd y dehongliad Cymraeg o rhai o’r syniadau hyn i ddadleuon cyfoes ynglˆyn ag iechyd meddwl, gwleidyddiaeth ac hunaniaeth yng Nghymru. Ymatebodd cenhedlaeth o awduron i’r argyfwng dirfodol a wynebai’r diwylliant Cymraeg yn y cyfnod dan sylw trwy ddangos ymrwymiad a phenderfyniad i gymhwyso ac addasu’r datblygiadau deallusol mwyaf modern er mwyn ceisio goresgyn yr argyfwng mewn modd sy’n parhau’n ysbrydoliaeth heddiw, yng nghysgod Brexit a thwf awdurdodaeth.

Endorsements

‘Mae’r gyfrol hon yn arloesol gan ei bod yn trafod ac yn dadansoddi datblygiad deallusol y Gymru Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif, mewn perthynas â gwleidyddiaeth, meddyleg a chymdeithaseg yn rhyngwladol. Gan dynnu ar weithiau awduron, meddylwyr ac ysgolheigion Cymraeg y cyfnod, gosodir datblygiad deallusol y Gymru Gymraeg mewn cyd-destun byd-eang.’
-Yr Athro Angharad Price, Prifysgol Bangor

‘Mae’r gyfrol gyfoethog hon yn egluro apêl seicdreiddiad i Gymry Cymraeg canol yr ugeinfed ganrif. Gan fynd i’r afael â chyffro deallusol y cyfnod, dangosir bod y diwylliant Cymraeg yn fwy blaengar nag y tybir yn aml, ac mae yma wersi amserol iawn i ni heddiw.’
-Yr Athro Dafydd Johnston, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

‘Gwreiddioldeb y gyfrol werthfawr hon sy’n dal y sylw. Mae’n cynnig inni ongl newydd ar hanes ein diwylliant yn ystod yr ugeinfed ganrif, trwy ddatgelu dylanwad pellgyrhaeddgar Freud a’i debyg ar feddylfryd y cyfnod. Dengys ymhellach sut y treiddiodd ieithwedd seicdreiddiad i feysydd gwleidyddiaeth a chymdeithaseg, gan newid golwg deallusion Cymru ar eu gwlad.’
-Yr Athro M. Wynn Thomas, Prifysgol Abertawe

‘Yr Anymwybod Cymreig: Freud, Dirfodaeth a’r Seice Cenedlaethol yw’r astudiaeth ddiweddaraf yng nghyfres ‘Safbwyntiau’ Gwasg Prifysgol Cymru ac, yn ddiau, dyma waith treiddgar, manwl a hynod ddiddorol… Heb os, mae hon yn gyfrol arloesol sy’n bwrw golwg werthfawr a thrwyadl ar ddylanwad syniadau seicdreiddiol a dirfodol ar y Cymry… Yn wir, dylai’r gyfrol ryngddisgyblaethol hon gael ei darllen, ei hastudio a’i thrafod yn eang iawn gan ei bod yn ymwneud â chymaint o agweddau a fyddai o ddiddordeb i’r sawl sy’n ymhél â seicoleg, athroniaeth, crefydd, hanes, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth neu gymdeithaseg, i enwi rhai meysydd yn unig.’
– Gareth Evans-Jones, Y Traethodydd Hydref 2019

'Cyflwynod Llion Wigley allwedd i'r sawl sydd am astudio meddylfryd deallusion Cymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Mae ehangder ei ddarllen a threiddgarwch ei ddehongli i'w hedmygu. Mae'n llwyddo i gyfleu ei ddysg i'r darllenydd mewn arddull eglur a llyfn. Os na fydd Cymru yn Ewrop bellach, mae'n amlwg y bu Ewrop yng Nghymru.'
-E. Gwynn Matthews, Cylchgrawn Barn Rhagfyr 2019

Contents

Diolchiadau
Cyflwyniad
1. Meddygon yr Enaid: Seicdreiddiad a Seicotherapi yn y Gymraeg
2. Tywyll Heno? Ymatebion Llenorion Cymraeg I Seicdreiddiad
3. Argyfwng ac Ymrwymiad: Dirfodaeth Gymraeg
4. Cyfannu’r Rhwyg: Seicoleg yng Ngwaith J. R. Jones
Casgliad
Nodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai

About the Author(s)

Author(s): Llion Wigley

Mae Llion Wigley yn hanesydd sydd wedi cyhoeddi ysgrifau ac erthyglau yn Y Traethodydd, Cylchgrawn Hanes Cymru, Llafur, Ysgrifau Beirniadol ac O’r Pedwar Gwynt.

Read more