Ysbryd Morgan

Adferiad y Meddwl Cymreig

Author(s) Huw L. Williams

Language: Welsh

  • December 2020 · 192 pages ·216x138mm

  • · Paperback - 9781786834195
  • · eBook - pdf - 9781786834201
  • · eBook - epub - 9781786834218

About The Book

Dyfal ond dychmygus, caiff Ceridwen ei lluchio i sefyllfa ddirdynnol ym mherfeddion y canolbarth, a hithau a’i mam yn hen dyddyn y teulu yn gofalu am ei Gransha yn ei ddyddiau olaf. Gyda’r byd yn datgymalu o’u cwmpas, ceir cyfle i ddianc i’r dychymyg gyda chymorth Nain, a wnaeth adael casgliad amrywiol o lyfrau i Ceridwen – trysorau sy’n ei thywys i gwrdd â chyfres o gymeriadau annisgwyl yn canu am hanesion a syniadau o’r henfyd i’r presennol, ac sy’n agor drws iddi ar fyd llawn cwestiynau a myfyrdodau ar ei chyflwr hithau, ei chenedl a’r byd tu hwnt. Wrth ddilyn yng nghwmni ei chyfeillion hynt yr hyn a enwir yn ‘Ysbryd Morgan’, daw’n hysbys i Ceridwen fod gobaith i’w ganfod yng ngwedd bruddglwyfus ei theulu a’i chymdeithas – ond i’w ganfod, mae’n rhaid cysylltu gyda’r gorffennol tra yn dechrau o’r newydd.

Endorsements

‘Sut mae bod yn athronyddol ac yn ddychmyglawn, yn eangfrydig ac yn genedlgarol, yn ddadansoddol ac yn angerddol – y cyfan, a rhagor, ar yr un pryd? I gael yr ateb, darllenwch tour de force diweddaraf Huw L. Williams – cewch eich hysbrydoli yn y fargen.’
-Cynog Dafis

‘Mae’n bolemig huawdl a grymus, yn adeiladol o bryfoclyd ei gasgliadau. Da gweld ysgolhaig ifanc a dawnus yn ymarfer cyhyrau ei ddeall.’
-Yr Athro M. Wynn Thomas, Prifysgol Abertawe

‘Yn y llyfr hwn, fel yn ei ragflaenydd Credoau’r Cymry, atgyfodir ar gyfer cenhedlaeth newydd drysorau’r traddodiad athronyddol Cymreig. Eto nid achub pwnc yn unig yw’r nod y tro yma, ond achub cenedl a phlaned o’u hargyfyngau gwleidyddol a hinsoddol trwy oleuni “Ysbryd Morgan”.’
-Yr Athro Emerita Jane Aaron, Prifysgol De Cymru

'Er bod dysg eang yr awdur yn amlwg, nid testun academaidd digyffro yw’r llyfr pwysig hwn. Mae Huw Williams yn ysgrifennu gyda thaerineb sy’n dwyn i gof arddull J. R. Jones. Dyma alwad i ddeffro ac i weithredu, a hynny ar fyrder. Mae’r gyfrol yn amserol iawn gan ein bod fel gwlad ar drothwy newidiadau sylfaenol i’n patrymau o fyw. Cenadwri Huw Williams yw fod yn rhaid i ni sicrhau cymdeithas sosialaidd, gymunedol a chyfanfydol os ydym fel Cymry i fod yn driw i’n gwreiddiau ysbrydol.'
- E. Gwynn Matthews, Gwales.com

‘Yng Nghymru heddiw, nid oes unrhyw le ar gyfer ein traddodiad deallusol brodorol. Rhagoriaeth a chyfraniad cyfrol Huw L. Williams yw ei fod yn ceisio adfer y traddodiad coll… Datblygiad cyffrous mewn ysgolheictod Cymraeg yw’r pwyslais newydd hwn ar waith sy’n ‘greadigol’ yn hytrach nag yn awdurdodol ei genadwri.’
– Simon Brooks, Cylchgrawn Barn Ebrill 2021

Contents

Adnodau
Diolchiadau
Rhagymadrodd
Pennod 1
Ceridwen
Y Dylluan
Pennod 2
Nain a Gransha
Y Fwyalchen
Pennod 3
Hanesion
Y Gwylanod
Pennod 4
Ffarwél
Y Barcud
Y Negesydd
Epilog
Nodiadau
Llyfryddiaeth

About the Author(s)

Author(s): Huw L. Williams

Dr Huw Williams is part of Cardiff University's Phiosophy research group. He received a Ph.D. from the International Politics department at Aberystwyth in 2009.

Read more