UWP
Chwilio ISBN
Chwilio (Saesneg)
Chwilio (Cymraeg)

Daeth cynulleidfa sylweddol at ei gilydd yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd flynyddol archaeoleg Amgueddfa Cymru ar ddydd Sadwrn, 15 Tachwedd, a hithau’n ddiwrnod o dywydd gwlyb. Cychwynnodd Peter Wakelin, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yr Amgueddfa, y diwrnod gyda sgwrs ddifyr ar Safleoedd Treftadaeth y Byd, yn arbennig y tri sydd yng Nghymru eisoes: cestyll a muriau trefol Edward I yng Ngwynedd; Blaenafon; a thraphont ddŵr Pontcysyllte. Dangosodd sut mae rhoi statws safle treftadaeth iddynt wedi trawsnewid yr ardaloedd hyn trwy ddenu twristiaeth a chreu swyddi newydd – mae dros 500,000 o dwristiaid y flwyddyn yn ymweld â Phontycysyllte bellach, er enghraifft.

Traddododd Stuart Needham, cymrawd ymchwil Amgueddfa Cymru, y brif ddarlith: Arfau’r Oes a Fu: datblygiad a diflaniad yr halberd yng Nghymru’r Oes Gopr. Darganfyddiad diweddar o halberd yn ardal Trecastell, Powys, oedd prif ffocws ei ddarlith. Disgrifiodd sut mae’r darganfyddiad hwn wedi ein galluogi i ddeall yn well sut y defnyddiwyd yr halberd yng Nghymru’r Oes Gopr. Ei ddadl oedd bod yr halberd wedi cael ei ddefnyddio fel arf yn bennaf, ond fod ganddo hefyd bwysigrwydd symbolaidd fel ffordd o ddynodi aelodaeth o grŵp arbennig, ac fe’i defnyddiwyd hefyd fel rhan o ddefodau gwahanol. Ysgogodd ei ddadl ymateb fywiog gan y gynulleidfa, gyda rhai yn dadlau mai teclyn amaethyddol a ddefnyddiwyd ym mywyd pob dydd oedd yr halberd, yn hytrach nag arf. Atebodd Dr Needham trwy ddangos bod rhai o’r marciau ar y darganfyddiad diweddar o Drecastell yn awgrymu’n gryf ei fod wedi cael ei ddefnyddio fel arf yn hytrach na theclyn amaethu.

Y siaradwr nesaf oedd Mark Lodwick, cydlynydd Henebion Cludadwy Cymru. Dull o gofnodi a chyhoeddi darganfyddiadau archeolegol gan aelodau’r cyhoedd yw’r Cynllun Henebion Cludadwy, a chanolbwyntiodd papur Lodwick ar ddarganfyddiadau newydd yng Nghymru drwy’r Cynllun. Trafododd a disgrifiodd rai o’r darganfyddiadau archeolegol mwyaf pwysig ac arwyddocaol diweddar mewn tri phrif ardal: ardal Sain Ffagan a’r cyffiniau; ardal Penllyn, Bro Morgannwg; ac ardal Bae Abertawe. Mae nifer o eitemau pwysig ac anghyffredin o’r Oes Efydd wedi cael eu darganfod yn ardal Bae Abertawe yn benodol.

Cyflwynodd Mark Redknap, sy’n guradur ar yr Oesoedd Canol o fewn adran Hanes ac Archaeoleg yn yr Amgueddfa, ddau bapur ar ôl cinio. Yn y cyntaf, Clawdd Offa: diogelu treftadaeth a thystiolaeth newydd,  manylodd ar waith arloesol Cyril Fox, yr archeolegydd o fri, rhwng 1925 a 1932 yn mapio a sefydlu union hyd Clawdd Offa, y credwyd yn draddodiadol ei fod wedi ymestyn o un arfordir i’r llall. Cyflwynodd ddarlun byw o grwydradau hamddenol ond penderfynol Fox ar hyd y Clawdd, gyda’i wraig ac amryw gyfaill yn ei gynorthwyo. Mae’r Clawdd wedi  ei ddifrodi’n sylweddol gan amrywiol ffactorau ers hynny, yn cynnwys pori a thyrchu gan anifeiliaid ac erydiad a achosir gan dwristiaid. Eglurodd Redknap fod cynllun rheolaeth ar waith erbyn hyn er mwyn ymateb i’r bygythiadau a sicrhau fod Clawdd Offa yn cael ei warchod.

Testun ail bapur Redknap oedd Y Sacsoniaid a’r Llychlynwyr yng Ngogledd Cymru: Canfyddiadau newydd a’u harwyddocâd. Disgrifiodd y cyfoeth arbennig o ddeunydd yn ymwneud â chyrchoedd y Llychlynwyr yng Ngogledd Cymru yn ystod teyrnasiad Rhodri Fawr a ganfuwyd yn safle Llanbedr Goch yn Sir Fôn. Mae’r deunydd yma’n cynnwys ysgerbydau chwech o bobl y credir iddynt gael eu lladd yn ystod cyrchoedd y Llychlynwyr. Roedd dwylo un o’r sgerbydau y tu ôl i’w gefn, sy’n awgrymu’n gryf ei fod wedi cael ei rwymo. Mae’r dystiolaeth o Lanbedr Goch wedi ein galluogi i adeiladu darlun llawer cliriach o’r berthynas gymhleth a fodolai rhwng y Cymry a’r Llychlynwyr yn y nawfed a’r degfed ganrif.

Papur gan Robert Protheroe Jones, curadur casgliadau diwydiannau trwm Amgueddfa Cymru, a ddilynodd seibiant byr am goffi, gyda’r teitl Paentiadau, Ffotograffau a Ffwrneisi: Dehongli lluniau diwydiannol hanesyddol drwy gyfrwng celf. Roedd y papur yn gyflwyniad difyr dros ben i’r dystiolaeth o ddatblygiad y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru y mae amrywiol baentiadau, darluniadau a ffotograffau o’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ei gynnig. Yn anffodus, ni chafodd treftadaeth ddiwydiannol Cymru ei ddogfennu’n dda iawn o ran ffotograffau, oherwydd dim ond o’r 1890au ymlaen y ceir tystiolaeth ffotograffig sylweddol o’r prif safleoedd diwydiannol, ac erbyn hynny roeddynt wedi datblygu’n weddol gyflawn. Ymhellach, prin iawn yw’r cynlluniau pensaernïol  sydd wedi goroesi o’r safleoedd hyn, sy’n golygu ein bod yn ddibynnol i raddau helaeth ar yr ychydig baentiadau a darluniadau a grëwyd wrth i’r safleoedd dyfu. Paentiwyd amryw o’r rhain gan dwristiaid a ymwelodd â Chymru fel rhan o’r ‘Daith Fawr’ yn ystod y cyfnod Napoleonaidd, cymaint oedd y cyfyngiadau ar deithio yn Ewrop ar y pryd. Gwaith artistiaid a noddwyd gan rai o’r barwniaid diwydiannol yw eraill – paentiodd Penry Williams weithfeydd haearn Cyfarthfa ar ran y teulu Crawshay, er enghraifft. Dangosodd Protheroe Jones sut y gellir defnyddio lluniau fel y rhain i oresgyn peth o’r her wrth ddehongli safleoedd diwydiannol y mae’r diffyg deunydd darluniadol a disgrifiadol swyddogol yn ei achosi.

Siaradwr olaf y diwrnod oedd Edward Besly, arbenigwr niwmismateg sy’n gweithio i Amgueddfa Cymru, a’i destun oedd Celciau a chasglu yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Disgrifiodd y casgliad sylweddol o geiniogau o gyfnod y Rhyfel Cartref a ganfuwyd yn ardal Tregwynt, Sir Benfro, ym 1997. Dyma’r casgliad mwyaf o’i fath sydd wedi cael ei ddarganfod yng Nghymru, yn cynnwys cyfanswm o 500 o geiniogau aur ac arian gwerth 51 punt a 9 swllt, swm sylweddol iawn adeg y Rhyfel Cartref a fyddai wedi bod yn ddigon i brynu dwy dunnell o gaws! Claddwyd llawer iawn o arian gan deuluoedd oedd yn cefnogi’r Brenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref, oherwydd eu pryder bod eu gelynion yn bwriadu ei ddwyn. Roedd Sir Benfro yn gadarnle i’r brenin, a lansiwyd ymdrech yn erbyn Cromwell yno ym 1648 a gyrhaeddodd mor bell â Sain Ffagan, cyn cael ei drechu mewn brwydr enwog. Cyflwynwyd y celc i Amgueddfa Cymru ac mae bellach yn rhan o’i chasgliadau. Dangosodd y gynhadledd amrywiol ac eang hon y lefel uchel o ddiddordeb sydd mewn archaeoleg yng Nghymru heddiw.

Llion Wigley